31/08/2009

Nant Gwrtheyrn

Gwefan Nant Gwrtheryn
Canolfan yn arbenigo mewn cyrsiau preswyl Cymraeg (fel ail iaith) i Oedolion. Cynhelir priodasau a chynadleddau yn y Ganolfan ac mae croeso bob amser i ymwelwyr ddod i fwynhau'r dyffryn cyfan gan gynnwys y Ganolfan Dreftadaeth, siop, bwyty a'r traeth hudolus.

28/08/2009

Clwb Mynydda Cymru












Mae Clwb Mynydda Cymru wedi bod yn rhannol gyfrifol am y cynnydd mewn mynydda a dringo, wrth i amryw droi i'r mynyddoedd am adloniant a phleser. Yn ddiddadl mae crwydro mynyddoedd yng nghwmni cyfeillion sy'n rhannu'r un diddordeb â chwi yn ffordd ddiguro o ddod i adnabod Cymru'n well. Fel aelod oGlwb Mynydda Cymru mae cyfle i wneud hynny'n gyson.

27/08/2009

Dawns i bawb

Gwefan Dawns i Bawb
Dawns i Bawb yw’r sefydliad ambarel ar gyfer dawns yn y gymuned yng Ngogledd Orllewin Cymru. O Bwllheli i Abergele, o Gaergybi i Dowyn, mae Dawns i Bawb yn gweithio gyda phobol leol, gydag ymarferwyr dawns amatur a proffesiynol a chyda choreograffwyr i hybu dawns yn yr ardal.

26/08/2009

Bethan Clwyd


Gwefan Bethan Clwyd - arlunydd o Aberystwyth sydd yn gweithio gydag olew.
http://www.bethanclwyd.co.uk

25/08/2009

Gwesty Cymru


Gwefan Gwesty Cymru yn Aberystwyth
Yn wynebu'r traeth yn nghanol y prom, mae Gwesty Cymru yn barod i roi croeso cynnes i chi.
http://www.gwestycymru.com/

24/08/2009

Pictiwrs


Gwefan Pictiwrs
Sinema a theledu drwy lygaid Cymraeg. Cyfle i gyfrannu i'r drafodaeth am sinema a theledu.

21/08/2009

Medi

Gwefan Medi, Dolgellau
Nefoedd fach wrth droed y Gader.

Siop unigryw mewn adeilad rhestredig, yn gwerthu cynnyrch
Cymraeg, Ffrenig ac eitemau amrywiol o Scandinafia a'r Unol Daleithiau.

Cynnyrch hyfryd yn y dull 'Shabby-Chic' poblogaidd.

20/08/2009

Clwb Cerdded Crwydro Caron

Gwefan Clwb Cerdded Crwydro Caron

Mae Clwb Cerdded Crwydro Caron yn croesawu cerddwyr o bob oed a gallu. Os ydych chi'n byw yn lleol neu'n ymweld â'r ardal, mae croeso ichi ymuno â ni ar ein teithiau cerdded.

19/08/2009

Arlwyo Nant

















Arlwyo Nant Catering ydi’r fenter newydd i ddau frawd Gwyn ac Elwy Williams i ddod a Cig Oen Cymru o’r safon gorau i’ch gweithgareddau lleol chi. O’r ymwelwyr dyddiol, y rhai sydd draw am benwythnos, cyfarfodydd, ffeiriau ac unrhyw ddigwyddiad yn eich hardal. Gall y gegin symudol yma demptio a chyffroi unrhyw baled!





18/08/2009

Tympan

Gwefan Tympan
Cwmni bychan yw tympan sy'n canolbwyntio ar baratoi llyfrau llafar gan roi llais i rai o storïau gorau'r iaith Gymraeg ar gryno-ddisg.

17/08/2009

Nantlle.com

Gwefan Nantlle.com

Gwefan swyddogol Dyffryn Nantlle wedi'i chreu gan grŵp o bobl leol er lles ardal Dyffryn Nantlle a'i thrigolion yn gyffredinol. Ein bwriad yw cadw hanes Dyffryn Nantlle yn fyw yn ogystal â rhannu gwybodaeth am weithgareddau, adnoddau a busnesau y Dyffryn.

14/08/2009

Fronlas

Gwefan Fronlas, Llandeilo
Gwely a Brecwast bwtic gyda golygfeydd o'r Bannau Brycheiniog.

13/08/2009

Hybu Cig Cymru

Gwefan Hybu Cig Cymru
Hybu Cig Cymru yw'r corff sy'n gyfrifol am ddatblygu, hyrwyddo a marchnata cig coch o Gymru. Rydym yn gweithio gyda pob sector o'r diwydiant cig cochyng Nghymru - o'r ffermwyr i'r archfarchnadoedd, i ddatblygu'r diwydiant ac i ddatblygu marchnadoedd proffidiol i Gig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru.

12/08/2009

Dilan, Penmachno

Gwefan Dilan

Llawn lluniau a hanes ardal Penmachno.
http://www.dilan4.com

11/08/2009

Wynford Ellis Owen (Syr Wynff)

Gwefan Wynford Ellis Owen

Hanes y gwr tu ol i Syr Wynff ap Concord y Bos a Porc Peis.



10/08/2009

Wafflau Tregroes

Gwefan Wafflau Tregroes
Yn ol y wefan "Wafflau Taffi sydd wir yn DIFERU danteithiau, gyda bisged mwyn, ardderchog, sydd yn ymdoddi yn y ceg, gan gyferbynnu gyda’r llenwad tenau o daffi chwedlonol, ychydig yn sbeislyd. "

Ma rhywyn yn dueddol i gytuno.


07/08/2009

Bodlon

Gwefan Bodlon
Siop ar lein sydd yn gwerthu "Rhoddion unigryw Cymreig i bobl sy'n caru bwyd".
Hamperi, llestri, bwyd a diod o bob math.
http://www.bodlon.com/

06/08/2009

Fflur Dafydd










Gwefan Fflur Dafydd y'r awdur ar gantores o Gaerfyrddin.
Enillydd gwobr Goffa Daniel Owen Eisteddfod y Bala 2009.
Bywgraffiad, galeri,erthyglau a mwy ar y wefan.

05/08/2009

Sain - Prif Gwmni Recordio Cymru

Gwefan Sain
Yn 2009 bydd Sain yn dathlu 40 mlynedd o fodolaeth.
Gallwch brynu cynyrch Sain or wefan a chael gwybodaeth am ei is labeli.
Crai, Rasal, Slic ynghyd a gwasanaethau eraill y cwmni.

04/08/2009

Parc Cenedlaethol Eryri

Gwefan Parc Cenedlaethol Eryri

"Lle i enaid gael llonydd" meddai'r wefan yma gyda gwybodaeth gynhwysfawr am y parc cenedlaethol 823 milltir sgwar yn Ngogledd Cymru.

Gwybodaeth am y parc, cynllunio, teithiau a'r amgylchedd.

03/08/2009

Eisteddfod Genedlaethol

Gwefan Eisteddfod Genedlaethol Cymru

Yn 2009 wedi ei leoli tu allan i'r Bala.

Gwybodaeth am y lleoliad, tocynnau a digwyddiadau'r wythnos.