Rydych yn siŵr o groeso cynnes yng Ngwesty Tŷ Newydd pa adeg bynnag o’r flwyddyn fydd hi, gan fod pob tymor yma ar Ben Llŷn yn cynnig ei brydferthwch unigryw ei hun.
Sefydlwyd ym mhentre Cwmann, Llanbedr Pont Steffan gan Carys Lewis a Sian Roberts Jones yn 2006.Daw ein aelodau o ardal Cwmann yn ogystal ag ardaloedd Felinfach a Phumsaint. Cynhelir ymarferion naill ai yng Nghanolfan Gymunedol Cwmann neu Ysgol Carreg Hirfaen bob yn ail nos Lun.
Sefydlwyd y clwb yn 2006 gan grwp o feicwyr brwdfrydig o ardal Llanrwst, rydym yn cynnig ystod eang o weithgareddau a digwyddiadau i bobl o bob oed a gallu.
Mae Gofalaeth Aled yn rhan o Ddosbarth Aled o fewn Henaduriaeth Dyffryn Clwyd.Ceir ynddi bump eglwys Bresbyteraidd dan ofalaeth Y Parch. Meirion Morris.
Mae'r Amgueddfa Lechi'n cynnig diwrnod llawn mwynhad ac addysg mewn ardal ddramatig o brydferth ar lan Llyn Padarn, nepell o orsaf Rheilffordd Llyn Llanberis.
Brodor o Abergele sy'n byw bellach ym Mhenrhosgarnedd yw Llion Jones. Prifardd cadeiriol Eisteddfod Genedlaethol Llanelli a'r Cylch 2000 a sylfaenydd a golygydd gwefan farddoniaeth Yr Annedd (www.cynghanedd.com).
Mae'n aelod o dîm Talwrn y Beirdd Penrhosgarnedd ac yn gweithio yng Nghanolfan Bedwyr, Prifysgol Bangor. Yn ei orffennol pell, bu'n aelod o'r grŵp Eryr Wen, ac ymhlith ei bechodau niferus, y mae'r gân anenwog honno, 'Gloria Tyrd Adre'.
Wedi ei ddarganfod yn 1992 gan Ymddireiedolaewth Archelogwyr Gwynedd a’i gloddio gan Neil Johnstone mae Llys Rhosyr yn un o Lysoedd neu Chwrtiau Brenhinol Llywelyn Fawr, Tywysog Gwynedd, yn y drydydd ganrif ar ddeg.