Showing posts with label cymuned. Show all posts
Showing posts with label cymuned. Show all posts

02/03/2010

Bro'r Dderi




Gwefan brordderi.com
Gwefan gymunedol ardaloedd Llangybi, Llanfair Clydogau,
Silian, Cellan, Betws Bledrws a Llwynygroes
Nod cynllun Brordderi.com yw tynnu egni, syniadau a gwybodaeth
ynghyd, a darparu cynhaliaeth i dri phrif faes.
Amgylchedd, Celf a Chreft a Hanes Lleol.

27/01/2010

Gwefan Gymunedol Ffarmers


Gwefan Gymunedol Ffarmers
Pentre bach ym mhlwyf Cynwyl Gaeo yw Ffarmers, i'r gogledd o'r A482 sy'n arwain o Lanwrda i Lanbedr Pont Steffan.
Cewch newyddion am ddigwyddiadau ar y wefan

12/10/2009

Priosect Menai

Gwefan Prosiect Menai
Prosiect cymunedol i ddathlu y ddwy bont fyd-enwog, yr amgylchedd morol gwych, harddwch naturiol anhygoel y Fenai a hanes pobl yr ardal drwy'r canrifoedd.

05/10/2009

Ysbryd y Mwynwyr

Gwefan Ysbryd y Mwynwyr
Mae gan dirluniau godidog Ceredigion dreftadaeth 4000 mlynedd o gais dyn am fwynau.
Ers yr Oes Efydd, cafodd copr, arian, plwm a sinc eu mwyngloddio ym mryniau Canolbarth Cymru.

30/09/2009

Corwen

Gwefan tref Corwen
Mae tref farchnad Corwen wrth droed Mynyddoedd y Berwyn ar ochr orllewinol Dyffryn Dyfrdwy

14/09/2009

Lyfi Dyfi


Gwefan Lyfi Dyfi
I'r rhai sydd mewn cariad gyda Bro Ddyfi.

07/09/2009

Ecodyfi

Gwefan Ecodyfi
Mae Ecodyfi yn gorff adfywio lleol sy'n cwmpasu Dyffryn Dyfi, yng Nghanolbarth Cymru - cymuned ddwyieithog lewyrchus ymysg rhai o dirluniau mwyaf trawiadol Gwledydd Prydain.

17/08/2009

Nantlle.com

Gwefan Nantlle.com

Gwefan swyddogol Dyffryn Nantlle wedi'i chreu gan grŵp o bobl leol er lles ardal Dyffryn Nantlle a'i thrigolion yn gyffredinol. Ein bwriad yw cadw hanes Dyffryn Nantlle yn fyw yn ogystal â rhannu gwybodaeth am weithgareddau, adnoddau a busnesau y Dyffryn.